There Will Be Blood
![]() Poster y Ffilm | |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Paul Thomas Anderson |
| Cynhyrchydd | Paul Thomas Anderson Daniel Lupi Joanne Sellar Scott Rudin (Uwch Gynhyrchydd) |
| Ysgrifennwr | Paul Thomas Anderson(Ffilm) Upton Sinclair (Nofel) |
| Serennu | Daniel Day-Lewis Paul Dano Dillon Freasier |
| Cerddoriaeth | Jonny Greenwood |
| Sinematograffeg | Robert Elswit |
| Golygydd | Dylan Tichenor |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu | Paramount Vantage Yn rhyngwladol:Miramax Films |
| Amser rhedeg | 158 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
| Gwefan swyddogol | |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Mae There Will Be Blood yn ffilm o 2007 a gafodd ei hysgrifennu, ei chyfarwyddo a'i chynhyrchu gan Paul Thomas Anderson. Mae'r ffilm wedi ei seilio'n fras ar nofel Upton Sinclair Oil! (1927). Adrodda hanes cloddiwr-arian sy'n dechrau ym myd olew ar ei siwrnai ddidostur am gyfoeth yn ystod bŵm olew De California ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g. Mae Daniel Day-Lewis a Paul Dano yn actio yn y ffilm. Dechreuwyd ar y broses ffilmio yng nghanol mis Mai ym Mecsico Newydd a Marfa, Texas gyda'r prif ffilmio'n dod i ben ym mis Awst 2006. Dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf ar y 29ain o Fedi 2007, yn Fantastic Fest yn Austin, Texas. Rhyddhawyd y ffilm ar y 26ain o Ragfyr 2007 yn Efrog Newydd a Los Angeles, ac yna agorodd mewn nifer cyfyngedig o theatrau wedi hynny. Rhyddhawyd y ffilm yn swyddogol ar y 25ain o Ionawr, 2008.
Derbyniodd y ffilm glod uchel wrth y beirniaid ac fe'i henwebwyd am nifer o wobrau. Ymddangosodd y ffilm ar ddeg uchaf nifer o'r beirniaid am y flwyddyn, gan gynnwys y Gymdeithas Genedlaethol o Feirniaid Ffilm a Chymdeithas Beirniaid Ffilm Los Angeles. Enillodd Day-Lewis Oscar, BAFTA, Golden Globe, Screen Actors' Guild, NYFCC, a gwobr Actor Gorau IFTA am ei berfformiad. Enwebwyd y ffilm am wyth o Wobrau'r Academi gan ennill y teitl o Actor Gorau i Day-Lewis a'r Sinematograffeg Gorau i Robert Elswit.
