Nebraska
| Arwyddair | Equality before the law |
|---|---|
| Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
| Enwyd ar ôl | Afon Platte |
| Prifddinas | Lincoln |
| Poblogaeth | 1,961,504 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Beautiful Nebraska |
| Pennaeth llywodraeth | Jim Pillen |
| Cylchfa amser | UTC−07:00, America/Chicago |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA |
| Sir | Unol Daleithiau America |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 200,520 km² |
| Uwch y môr | 790 metr |
| Gerllaw | Afon Platte, Afon Niobrara, Afon Republican, Afon Missouri, Lewis and Clark Lake, Llyn McConaughy, Harlan County Reservoir |
| Yn ffinio gyda | De Dakota, Missouri, Colorado, Iowa, Kansas, Wyoming |
| Cyfesurynnau | 41.5°N 100°W |
| US-NE | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Nebraska Legislature |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Nebraska |
| Pennaeth y Llywodraeth | Jim Pillen |
![]() | |
Mae Nebraska yn dalaith yng ngogledd canolbarth yr Unol Daleithiau, sy'n gorwedd i'r gorllewin o Afon Missouri. Mae'n cynnwys rhan o'r Iseldiroedd Canolog yn y dwyrain a rhan o'r Gwastadiroedd Mawr yn y gorllewin. Cafodd ei archwylio gan y Ffrancod a'r Sbaenwyr. Roedd yn rhan o Bryniant Louisiana gan yr Unol Daleithiau yn 1803. Daeth yn dalaith yn 1867, a datblygodd yn gyflym fel canolfan ransio. Lincoln yw'r brifddinas.

Mae'r hen prairies a'i gyrroedd byffalo a oedd mor annwyl gan y Sioux a Cheyenne brodorol wedi hen ddiflannu. Yn eu lle ceir y caeau mawr agored sydd mor nodweddiadol o'r dalaith heddiw. Diflasodd T. H. Parry-Williams ar undonedd yr ardaloedd gwledig wrth deithio trwy'r dalaith yn y trên yn 1935:
Chwythed y peiriant y mwg o'i gorn
Dros y gwastadeddau indian-corn,
Gan leibio'r dwyrain i'w grombil tân,
A hollti'r pellterau ar wahân,
I mi gael cyrraedd rhyw dir lle mae
Rhywbeth i'w weld heblaw gwlad o gae.
(Synfyfyrion, 1937)
Dinasoedd Nebraska
[golygu | golygu cod]| 1 | Omaha | 408,958 |
| 2 | Lincoln | 258,379 |
| 3 | Bellevue | 50,137 |
| 4 | Grand Island | 48,520 |
| 5 | Kearney | 30,787 |
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) www.nebraska.gov
