Christina Koch
| Christina Koch | |
|---|---|
| Ganwyd | 29 Ionawr 1979 Grand Rapids |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gofodwr, peiriannydd |
| Cyflogwr | |
| Gwobr/au | Antarctica Service Medal |
Mae Christina Koch (ganwyd 29 Ionawr 1979) yn beiriannydd a gofodwr o’r Unol Daleithiau.[1]
Cafodd ei dewis i fod yn rhan o griw Artemis II, sydd wedi ei gynllunio i hedfan o amgylch y Lleuad yn 2026.[2] Os bydd y daith yn llwyddianus, hi fydd y fenyw gyntaf erioed i hedfan yn bellach nag orbit isel y Ddaear.
Cafodd ei chynnwys yn rhestr Time’s 100 o'r bobl mwyaf dylanwadol yn 2020.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Grand Rapids, Michigan, a magwyd yn Jacksonville, Gogledd Carolina. Ei breuddwyd ers ei phlentyndod oedd i fod yn ofodwr.
Graddiodd o Ysgol Wyddoniaeth a Mathemateg Gogledd Carolina yn 1997, cyn ennill dwy radd mewn peirianneg trydanol a ffiseg o Brifysgol Gogledd Carolina yn 2001.
Gyrfa NASA
[golygu | golygu cod]
Yn 2013, dewisiwyd i fod yn aelod o "Gofodwyr Grŵp 21", a chwblhaodd yr hyfforddiant yn 2015.
Artemis II
[golygu | golygu cod]Ar 3 Ebrill 2023, cyhoeddwyd y bydd hi'n aelod o griw Artemis II. Bydd hi'n teithio gyda gofodwyr NASA Reid Wiseman, Victor Glover, a Jeremy Hansen o Asiantaeth Ofod Canada.[3][4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Christina Koch - NASA" (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Chwefror 2026.
- ↑ "A new era of spaceflight. Meet the Artemis II astronauts who will soon be flying around the Moon". BBC Sky at Night Magazine (yn Saesneg). 19 Ionawr 2026. Cyrchwyd 14 Chwefror 2026.
- ↑ "Our Artemis Crew - NASA" (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Chwefror 2026.
- ↑ "NASA Names Astronauts to Next Moon Mission, First Crew Under Artemis - NASA" (yn Saesneg). 3 Ebrill 2023. Cyrchwyd 14 Chwefror 2026.