Neidio i'r cynnwys

Amlwythiant

Oddi ar Wicipedia
Amlwythiant
Enghraifft o:pecynnu Edit this on Wikidata
Mathcludiant nwyddau rhyngfoddol Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0db40 edit this on wikidata
QuoraContainerization-transport edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llong gynwysyddion yn cael ei llwytho gan graen ym Mhorthladd Copenhagen

System o gludo nwyddau gan ddefnyddio cynwysyddion llongau (a elwir hefyd yn "gynwysyddion rhyngfoddol" neu "gynwysyddion ISO") yw amlwythiant.[1] Mae'r cynwysyddion o faint safonol ac maen nhw'n gallu cael eu llwytho a'u dadlwytho, eu pentyrru ar ben ei gilydd, eu cludo yn effeithlon dros bellter mawr, a'u trosglwyddo o un math o gludiant i un arall heb gael eu hagor. Mae'r system ar gyfer ymdrin â hwy wedi'i mecaneiddio yn llwyr fel bod yr holl drin a thrafod yn digwydd gyda chraeniau a wagenni fforch codi arbennig.[2] Mae'r holl gynwysyddion wedi'u rhifo a'u tracio gan ddefnyddio systemau cyfrifiadurol. 

Dechreuodd amlwythiant ganrifoedd yn ôl ond ni chafodd ei ddatblygu na'i ddefnyddio'n eang tan ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Gostyngodd gostau cludiant yn fawr, cefnogodd y cynnydd mewn masnach ryngwladol yn dilyn y Rhyfel, a throi'n elfen bwysig o globaleiddio. Gwnaeth amlwythiant y dasg o ddidoli llwythau a storio mewn warysau yn ddiangen, a chafodd effaith fawr ar waith mewn dociau. Lleihaodd dagfeydd mewn porthladdoedd a lleihau'r amser cludo ynghŷd â chostau difrod a lladrad.[3]

Gellir gwneud y cynwysyddion o ddur sy'n gwrthsefyll hindreuliad er mwyn lleihau costau cynnal a chadw.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Edmonds, John (3 Mawrth 2017). "The Freight Essentials: Getting Your Products Across The Ocean". Cyrchwyd 1 Medi 2017.
  2. Lewandowski, Krzysztof (2016). "Growth in the Size of Unit Loads and Shipping Containers from Antique to WWI.". Packaging Technology and Science. 29 (8–9): 451–478. doi:10.1002/pts.2231. ISSN 1099-1522.
  3. Levinson, Marc. "Sample Chapter for Levinson, M.: The Box: How the Shipping Container Made the World Smaller and the World Economy Bigger". The Box: How the Shipping Container Made the World Smaller and the World Economy Bigger. Princeton University Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Ionawr 2013. Cyrchwyd 17 Chwefror 2013.